Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 19 Ionawr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
11:00 - 14:30 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Julie James (Cadeirydd) Byron Davies Eluned Parrott David Rees Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Deryck Evans, Wales Audit Office David Rees, Wales Audit Office Jeremy Morgan, Wales Audit Office Iolo Llewelyn, Wales Audit Office Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty Alison Steadfast, Deputy Director of Procurement, Value Wales Michael Hearty, Director General for Strategic Planning, Finance & Performance Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc) Meriel Singleton (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.2 Cytunwyd ar ba Aelodau a fyddai’n arwain ar y themâu a ganlyn:
Byron Davies – contractio profiad awdurdodau
Julie James – y cymorth a’r arweiniad a gynigir
Eluned Parrott – mynediad busnesau bach a chanolig a chyrff yn y trydydd sector
David Rees – symleiddio gweithdrefnau
Leanne Wood – amcanion polisi amgylcheddol a chymdeithasol
2. Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop: Briff Technegol
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Deryck Evans, David Rees, Jeremy Morgan, ac Iolo Llewelyn o Swyddfa Archwilio Cymru.
2.2 Gwnaeth y swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyniad i roi trosolwg o gaffael yn yr Undeb Ewropeaidd. Roedd hyn yn cynnwys trosolwg o’r fframwaith cyfredol; materion yn ymwneud â diffyg cydymffurfio, a materion yn ymwneud â gwerth am arian.
2.3 Bu’r Aelodau a’r tystion yn trafod nifer o faterion ynghylch ailflaenoriaethu rhan B o’r cyfarwyddebau caffael. Cytunwyd bod hwn yn faes y byddai’r Pwyllgor efallai’n dymuno ei grybwyll mewn gohebiaeth â’r Comisiwn Ewropeaidd.
2.4 Cafwyd trafodaeth am yr heriau o fod yn arloesol o’i gymharu â cheisio osgoi risg. Teimlwyd y dylai’r gweithdrefnau newydd helpu pobl i gymryd risgiau wedi’u rheoli cyn belled ag y bo prosesau rheoli risg digonol wedi’u sefydlu.
2.5 Pwysleisiodd swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru fod angen i bobl yng Nghymru feithrin sgiliau uwch mewn perthynas â’r broses gaffael, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ynghylch cyflwyno tendr yn gywir o’r cychwyn. Awgrymwyd y byddai hynny’n helpu i leihau oedi yn y system.
2.6 Cafwyd trafodaeth am y corff arolygu cenedlaethol a oedd wedi’i gynnwys yn y cynigion. Awgrymwyd y byddai angen efallai ystyried ymhellach sut y byddai hynny’n gweithio ar lefel ddatganoledig.
2.7 Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i ddarparu unrhyw wybodaeth arall y byddai’n ei hystyried yn ddefnyddiol i ymchwiliad y grŵp ar ôl y sesiwn briffio gyda’r Aelodau.
3. Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop: Sesiwn Dystiolaeth
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ymgymryd â’r camau a ganlyn:
- Nodyn ynglŷn ag i ba raddau yr oedd Memorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU ynghylch y gyfarwyddeb caffael cyhoeddus ddrafft (cyfeirnod COMM 2011/896 final) yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru ar y cynigion ac unrhyw bryderon am y cynigion a/neu safiad yr aelod wladwriaeth. Y pwyntiau eraill y cytunwyd y byddai’r Gweinidog yn eu cynnwys yn y nodyn oedd:
- Ymateb i’r cynnig ar gyfer cael awdurdod ‘arolygu cenedlaethol’ a’r goblygiadau posibl i hynny, ac unrhyw faterion eraill yn ymwneud â sybsidiaredd a godwyd gan y Memorandwm Esboniadol;
- Cyngor cyfreithiol ynghylch a yw’r darpariaethau sy’n ymwneud ag amcanion polisi cymdeithasol ac amgylcheddol, a chefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar fudd i’r gymuned, yn ddigon cryf;
- Goblygiadau’r darpariaethau ynghylch diddymu gwasanaethau rhan B a chyflwyno cyfundrefn gwasanaethau cymdeithasol newydd;
- Goblygiadau’r gyfarwyddeb unioni cam i Gymru ac unrhyw wybodaeth gymharol am y profiad yng Ngogledd Iwerddon.
- Ystyried ceisio barn gyfreithiol ychwanegol ynghylch gallu’r cynigion drafft i gyd-fynd yn well â gweithredu’r cronfeydd strwythurol/polisi cydlyniant.
- Rhannu’r adroddiad ar gydweithredu yng ngogledd Cymru a luniwyd yn dilyn yr ymarfer i ganfod y gwersi a ddysgwyd.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Gweinidog dros fenter ddarparu ateb ysgrifenedig ynghylch y gwaith sy’n cael ei wneud i helpu busnesau yng Nghymru i gystadlu y tu allan i Gymru (yn y DU ac yn Ewrop) ym maes caffael cyhoeddus.